tudalen hafan y stori ar ynni newid yn yr hinsawdd fideos ystadegau cysylltiadau â'r we gweithio gydag ynni Flash books

Y Stori ar Ynni – byddwch yn Arwr!

boy with world in hands

 

Ynni yw’r stori fawr yn Ewrop ar hyn o bryd – ac mae gyda chi ran fawr i’w chwarae!

 

Mae’n rhwydd iawn – gallwch helpu i arbed yr hinsawdd rhag newid ac arbed ynni Ewrop ar gyfer y dyfodol trwy ddiffodd goleuadau ac offer trydanol.

 

Ar hyn o bryd, mae’n siŵr eich bod yn meddwl, pam trafferthu? Dyw un golau bach ddim yn mynd i newid y byd. Wel, meddyliwch...

 

Amcangyfrif sydyn...

 

Mewn blwyddyn, mae un bwlb golau 100W ymlaen am awr y dydd yn defnyddio 36,5 kWh o ynni. Mae yna 75 miliwn o bobl yn eu harddegau yn Ewrop. Os ydym i gyd yn diffodd un golau am awr pob dydd - sef 36,5 x 75 miliwn = 2738 miliwn kWh - dyma beth sy'n cael ei arbed.

 

Byddai hyn yn arbed 1.37 miliwn tunnell o garbon yn cael ei ryddhau i’r atmosffer – dyma faint sy'n cael ei gynhyrchu gan un orsaf ynni fechan (150 MWe).

 

Felly, heb os, chi sydd â'r pŵer i fod yn arwr yn stori Ewrop!

 

Nid dyma ddiwedd y stori

 

Mae diffodd goleuadau yn ddechrau da. Ond mae yna lawer o ffyrdd eraill y gallwch arbed ynni’r blaned ar gyfer y dyfodol.

 

girl points at CFL bulb

 

Mae bylbiau golau CFL yn defnyddio un rhan o bump o ynni bylbiau traddodiadol, ac yn para o leiaf wyth gwaith yn hirach. Maent yn costio mwy i’w prynu ond mewn gwirionedd yn arbed arian gan eu bod mor effeithlon. Anogwch eich ysgol, eich teulu a’ch ffrindiau i weld y golau a gwneud newidiadau!

 

Taflwch yr hwyaden

 

Mae cael cawod sydyn yn hytrach na baddon yn arbed ynni a dŵr. Mae’n bosibl na fydd yr hwyaden yn hapus. Ond pob tro mae hi'n nofio, mae’r broses gynhesu fyd-eang yn cyflymu.

 

toy duck

Diffoddwch e!

 

Defnyddir chwech y cant o ynni gan offer trydanol sy'n cael ei adael mewn modd segur. Pan ddangosa’r golau coch, rydych chi’n dal i wastraffu trydan! Felly, cofiwch dynnu’r plwg ar offer trydanol fel Playstation, chwaraewyr cryno ddisgiau a chyfrifiaduron!

switching off socket

 

Defnyddiwch ynni’r haul

 

Mae rhoi'r gwresogydd neu’r sychwr dillad ymlaen mor rhwydd. Yn aml, rydym yn anghofio bod yna ffynhonnell wych o ynni yn ein gerddi. Os yn bosibl, ceisiwch sychu eich dillad mewn dull naturiol. Ar ddiwrnodau heulog yn y gaeaf, trowch y thermostat i lawr ac agor y llenni. Bydd ynni o’r haul yn tywynnu ac yn cynhesu’r tŷ yn rhad ac am ddim.

 

clothes on line

 

Dim ond rhai enghreifftiau syml o gymryd Camau Gweithredu i Arbed Ynni yw’r rhain ac arbed adnoddau Ewrop ar gyfer eich dyfodol.

 

Mae llawer o bethau eraill y gallwch eu gwneud i arbed ynni. Cymrwch olwg ar y fideos, y cysylltiadau â'r we â’r lluniau i gael rhagor o syniadau.

 

e-gardiau post

Dewiswch gynllun a'i anfon at ffrind.

y parth gemau

Rhowch brawf ar eich sgiliau gyda gemau ar-lein o bob cwr o'r byd.

lluniau

Edrychwch ar ein galeri luniau ynni rhad ac am ddim.

eich tudalennau

Mae ein ffurflen ar-lein yn gyflym ac yn rhwydd i'w llenwi - dywedwch wrth y byd am eich straeon ar ynni.